Annwyl John Griffiths AS
Diolch yn fawr am y cyfle i gynnig tystiolaeth i’r ymchwiliad i ail gartrefi.
Rydym yn falch iawn eich bod yn ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Dr Simon Brooks fel
rhan o gylch gorchwyl yr ymchwiliad hwnnw.
Mawr obeithiwn y byddwch yn cymryd y cyfle i ymateb yn feiddgar i’r argymhellion. Yn
amlwg, mae ail gartefi yn fater o bwys a phryder mawr (a hynny ers blynyddoedd maith)
yma yng ngorllewin Cymru fel ag y mae mewn nifer o rannau eraill o’r ynysoedd hyn. Yn
anffodus ni fu unrhyw newid polisi nac ewyllys wleidyddol go iawn i ymateb i’r broblem.
Rydym mor falch felly eich bod chi nawr yn ymateb gan obeithio y bydd yna weithredu
dilynol cadarnhaol.
Wrth gwrs, yr elfen y mae’n rhaid ei hystyried bob tro wrth feddwl am Orllewin Cymru yw’r
effaith ieithyddol a gaiff y sefyllfa ail gartrefi. Mae’r Gymraeg wrth gwrs, er ei bod yn
perthyn i bawb yng Nghymru yn iaith leiafrifol, a dyma sy’n gweud sefyllfa Gorllewin Cymru
yn unigryw o’i chymharu gyda lleoliadau eraill e.e. Ardal y Llynnoedd. Yr un yw’r canlyniadau
yno h.y. o ran pobl leol ar incwm isel yn methu’n llwyr â chasglu digon i brynu tŷ ond yma y
mae’r effaith ieithyddol yn ffactor allweddol ac ychwanegol. Wrth gwrs, mae economi sydd
yn wan a chyflogau isel yn cyfrannu eto at y ffactorau sy’n golygu cynnydd yn nifer yr ail-
gartefi/gwyliau sydd yma. Mae hynny wrth gwrs yn cyfrannu wedyn at yr allfudo hanesyddol
sydd wedi ac yn digwydd o’r bröydd yma. Mae cynllun eang i adeiladu tai fforddiadwy i bobl
leol yn rhan o’r darlun fel ag y mae cryfhau’r economi leol hefyd.
Mae’n sefyllfa gymhleth ac yn galw am fesurau ac atebion cadarn.
Fel y cyfryw, nid oes gennym dystiolaeth sy’n ychwanegol i’r hyn y mae’r Dr Simon Brooks
wedi ei nodi yn ei ymchwil fanwl. Yn wir, mae e wedi cofnodi, wrth ystyried yr hyn sy’n
digwydd ym Mhen Llŷn a Dwyfor, yr union faterion sy’n effeithio ar gymunedu yma yng
Ngheredigion. Mae’r un gyfran uchel o dai haf a thai gwyliau i’w gweld mewn trefi glan môr
yma megis yn Y Cei Newydd ac Aberporth. Efallai y gellid hefyd ystyried ymchwil bellach i
effaith parciau gwyliau/safleoedd carafanau enfawr ar hyfywedd y Gymraeg yn ogystal â’u
heffaith amgylcheddol. Mae yna enghreifftiau o’r safleoedd hyn yma yng Ngheredigion. Yn
sgil hynny byddem yn nodi ein bod yn gweld posibliadau i godi treth dwristiaeth ar unrhyw
un sy’n dod ar wyliau i’r parthau hyn. Byddai’r incwm a godir yn gallu cael ei fuddsoddi
wedyn mewn prosiectau ieithyddol ac amgylcheddol. Mae hyn yn digwydd eisoes mewn
nifer o wledydd Ewrop megis y Swistir ble mae twristiaeth yn pwyso’n drwm ar gymunedau
penodol ar gyfnodau arbennig o’r flwyddyn.
Hoffem nodi felly ein bod yn cefnogi pob un o argymhellion yr adroddiad.
Yr eiddoch yn gywir
Gareth Ioan
Silyn Roberts
(ar ran holl aelodau Cyngor Cymuned Llanllwchaearn)